yn ceisio gwneud iawn am ei ddiffygion ei hun fel gwladwr pan oedd yn helpu ei dad ar y fferm yn Llanarmon. Fel pawb ohonom pan fydd yr ymdeimlad o ffaeledd wedi suddo i'n is-ymwybod, yr oedd mewn breuddwydion yn gwneuthur iawn am ei ddiffyg mewn gweithredoedd ac er mor galed yr ymadrodd, gwyddom bod hyn yn ddiffiniad teg o ran fawr o lenyddiaeth y byd. Breuddwyd yr artist, ym mhob un o'r celfyddydau, yw ei waith,—breuddwyd lle y gwêl y perffeithrwydd a gollwyd neu'r cariad a wrthodwyd. Yn ôl pob tystiolaeth yr oedd bywyd y fferm yn ddiflas gan Geiriog, ac nid oedd ganddo ddawn na medr at y gwaith. Yn un o'i awdlau cynnar y mae'n mynegi'n ddiamwys ei brofiad ei hun yn ei ddisgrifiad o'r morwr. Dyma un englyn o'r awdl honno, sydd yn rhoi rhesymau paham y gadawodd yr arwr ei gartref i fyned i'r môr:
Druan gŵr ni fedrwn gau—ar ochor
Y gwrychoedd a'r cloddiau;
Aethus sôn, mi fethais hau
A ffaeliais drin ceffylau.
"Ni fedrwn," "methais," ffaeliais,"—dyma brofiad y gŵr a gyhoeddodd mor glir yn "Alun Mabon" berffeithrwydd