delfrydol bywyd y gwladwr. Yr oedd bryd y morwr yn yr awdl wedi ei hoelio ar anturiaethau yn y byd mawr ymhell o'i gartref gwledig; i Geiriog yntau hefyd, Manceinion, Llundain, Lerpwl, oedd Singapôr, Valparaiso, a Samarcand ei freuddwydion cynnar. Ac yr oedd ei fywyd yn ddiweddarach yn ddarlun perffaith bron o'r hyn a wyddom am yrfa dynion y môr, canys ar ôl sylweddoli'r breuddwyd a chael ar y tonnau y rhyddid agored yr hiraethasant amdano, buan iawn y try eu hysbryd i ddyheu am yr hen fywyd cynefin gartref ; awydd gorthrechol am gael "job ar y lan" yw nodwedd pob morwr y cyfarfûm i ag ef erioed. Mewn amser caiff rhai ohonynt y "job" honno y soniasant cyhyd amdani, ond wedi ei chael ni allant byth ymfodloni ac ymsefydlu yng nghanol cymdeithas ddi-anturiaeth a di-sbonc y lan. Cafodd Ceiriog yntau sylweddoli'r dyhead sydd yn ei ganeuon, cafodd ddyfod yn ôl i Gymru yn was i'r ffordd haearn newydd yr oedd Dafydd Davies, Llandinam, wedi ei gwthio trwy Gymru. Ond ni allodd y breuddwydiwr setlo i lawr i fyw bywyd parchus Caersws a Llanidloes. Tynged yr hen forwr oedd ei dynged yntau.