Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceiriog (Darlith y BBC 1939).pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dywedais ddigon i ddangos mai rhyw wlad ledrithiol ansylweddol oedd y Gymru y cân amdani, ac mae'n werth inni sylwi ymhellach mai ffrwyth anwybodaeth Ceiriog o ffeithiau llenyddol y byd yw "Alun Mabon " ond nid yw'r gân i'w bychanu am mai ffrwyth anwybodaeth ydoedd. Pan gynigiwyd gwobr yn Eisteddfod Merthyr yn 1856 am Fugeilgerdd, mae'n sicr mai cael cerdd debyg i fugeilgerddi Edward Richard oedd amcan y pwyllgor, cerddi yn yr hen draddodiad a oedd wedi para mewn llenyddiaeth o amser Theocritus a Fersil, ond ni chlywsai Ceiriog am yr un o'r rhain, ac y mae'n ddigon posibl na ddarllenasai yr un o fugeilgerddi Edward Richard. Tybiodd gan hynny mai ystyr bugeilgerdd" oedd cerdd ramantus yn disgrifio bywyd y bugail, a chanodd "Owain Wyn," ac "Alun Mabon " wedi hynny, dan ddylanwad y dybiaeth hon. Camgymeriad ydoedd, ond camgymeriad a ddug ffrwyth gwerthfawr iawn yn hanes llenyddiaeth Cymru, canys o'r camgymeriad hwnnw y tyfodd nid yn unig "Alun Mabon" ond cerddi gorau Eifion Wyn,—"Mab y Mynydd," "Cwm Pennant," a llawer eraill, heb sôn am yr adlewyrch swynol o'r traddodiad