bugeiliol hwn sydd yng nghaneuon rhai beirdd diweddarach fel Crwys. Mae'n wir bod y ffynhonnell hon i awen y beirdd Cymreig wedi myned yn hesb erbyn heddiw, ac mai cymhellion eraill mwy astrus a chymhleth a gynhyrchodd brydyddiaeth Gwynn Jones, Williams Parry, a Parry-Williams, ond er hynny, ochr yn ochr â hunan-ymholi Parry-Williams, rhwysg a mawrhydi Gwynn Jones, dychymyg gwelediadol Williams Parry, rhaid inni osod hefyd symledd ac an-hunan-ymwybod Ceiriog.
Wrth sôn fel hyn am ryw Gymru ledrithiol nad oedd yn bod o gwbl ond yn ei ffansi hiraethus ei hun, yr oedd yn naturiol i Geiriog gwympo i fai parotaf y lledrithwyr, sef sentimentaliaeth, ac yn sicr dyma'r cyhuddiad gwaethaf a ellir ei ddwyn yn ei erbyn. Yn ei oes ei hun, ac am hir amser wedyn, nid oedd neb yn gweled dim o'i le yn y sentimentaliaeth blentynnaidd sydd yn "Beth yw cariad," "Wyt ti'n cofio'r lloer yn codi," a "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," oherwydd nid oedd y genedl Gymreig wedi ymarfer â barddoniaeth delynegol o radd uwch na hyn, er y dylasai urddas chwaethus ein hemynau fod wedi creu safonau amgen iddi. Ond rywsut