neu'i gilydd yr oedd y ddeuoliaeth a oedd ym mywyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn rhywstro i'r Cymry ganfod mai'r emynau oedd ffrwyth godidocaf yr awen delynegol yn eu hamser hwy eu hunain. Yr oedd cenhedlaeth Ceiriog yn derbyn yn awchus ei ganeuon salaf fel ei bethau gorau, ac ar yr un pryd yr oedd llawer ohonynt yn amheus iawn o'r hyn a alwent hwy yn "ddiffyg chwaeth " yng ngwaith Ceiriog. I'r oes honno "bod yn ddi-chwaeth" oedd sôn am bethau anfonheddig; bod yn ddi-chwaeth oedd i ddyn fyned i'r parlwr, megis, yn ei ddillad gwaith, ac mewn llenyddiaeth, nid oedd dillad gwaith a llaid a chwys y bywyd beunyddiol yn bethau chwaethus. Ffordd arall yn yr oes honno o fod yn ddi-chwaeth oedd bod yn ddigrif, a chan fod Ceiriog nid yn unig yn sôn am bethau cyffredin fel ffeiriau a ffyrdd haearn yn "Ifan Benwan" a chaneuon eraill, ond hefyd yn goganu bocsach a gwynt yn "Syr Meurig Grynswth," cyhuddwyd ef gan ei gyfoeswyr o fod yn ddi-chwaeth; dyma yw baich beirniadaeth John Roberts, Conwy, er enghraifft, arno. Ond pe na allwn wneuthur dim arall yn y sylwadau hyn, rhaid imi yn awr aros i brotestio gyda phob pwyslais
Tudalen:Ceiriog (Darlith y BBC 1939).pdf/20
Gwedd