Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceiriog (Darlith y BBC 1939).pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd gennyf yn erbyn y farn gyfoes am chwaeth Ceiriog, ac yn erbyn llawer o'r un rhagfarn sydd yn para'n fyw ymhlith y rhai mwyaf anniwylliedig. Od oes diffyg chwaeth o gwbl yn ei waith, yn y caneuon hynny fel "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon " a edmygid gymaint gan ei gyd-genedl y mae'r diffyg hwn, ac nid oes yn "Ifan Benwan " a "John yn mynd i Loegr " a "Syr Meurig Grynswth " rithyn o ddiffyg yn ei chwaeth. Y mae'r rhain ar y cyfan yn gampus ac i'w rhestru fel gwaith sydd nid yn unig yn nodweddiadol o awen Ceiriog ar ei gorau, ond yn gyfraniad pwysig i'r syniadau newydd a oedd yn dechrau dyfod i brydyddiaeth ac i feirniadaeth lenyddol yng Nghymru. Dylem dalu teyrnged arbennig i goffa Ceiriog am iddo roddi gwerth newydd ar ddidwylledd a difrifwch amcan; ac yn ei ganeuon ysgaifn y mae'r enghreifftiau gorau o'r rhinweddau hyn.

Y mae gwendid arall yn ei ganu sydd yn perthyn yn agos i sentimentaliaeth ei ganeuon salaf, ond efallai nad diffyg chwaeth yw'r enw iawn i roddi ar hwn. Yn ddiweddar y mae wedi tyfu'n ffasiwn lenyddol gan rai fwrw sneer ar bobl sydd yn gwybod mwy na hwy eu hunain, ac i groesawu