rhywbeth a elwir yn ddiwylliant "gwerinol" fel pe buasai'n angenrheidiol ragorach oherwydd ei fod yn werinol, ond nid wyf yn ymesgusodi am ddywedyd mai diffyg diwylliant yng Ngheiriog sydd yn cyfrif am lawer o wendidau'r gerdd ragorol honno, "Myfanwy Fychan." Yn y cyfansoddiadau eisteddfodol diweddar cafwyd digon, hyd at alaru, o fyneich a lleianod, a marchogion, a thuser, a sawyr. Wel, gwendid Ceiriog yw yr hyn. sydd yn hollol wrthgyferbyniol i'r chwiw hwn, sef tybio am dywysogion a thywysogesau 'r bedwaredd ganrif ar ddeg mai pobl oeddynt yn ymddwyn (yn ddigon gweddus, mae'n wir), fel pe baent mewn picnic Ysgol Sul neu yng nghwrdd clebran y Gymdeithas Lenyddol; ac am fardd fel Hywel ab Einion fel pe bai'n aelod o'r Orsedd ac yn ymhyfrydu yn y taeogrwydd hwnnw na allaf ei ddynodi'n well na thrwy ei alw yn hwyl "Ni'r Beirdd." Yn hyn mae "Myfanwy Fychan" yn wir boenus; nid oes yn yr holl gân gymaint ag awgrym o'r hyn a oedd ardderchog a lliwgar ym mywyd yr oes honno; y mae Hywel a Myfanwy yn siarad ac yn caru nid fel penceirddiaid a thywysogesau, ond fel siopwyr a morynion ym Man- ceinion. Eto i gyd, ni synnwn ddim pe
Tudalen:Ceiriog (Darlith y BBC 1939).pdf/22
Gwedd