Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceiriog (Darlith y BBC 1939).pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwelwn ysgol o feirniadaeth yn codi a fydd, â holl glyfrwch difrifol dynion ieuainc yn cyhoeddi efengyl newydd, yn cyfiawnhau gwisgo bywyd yr oesoedd canol yn syniadau ac ym moesoldeb y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwisgai Shakespeare a dramawyr ei gyfnod eu holl gymeriadau ar y llwyfan yn nillad oes Elisabeth, ac ychydig amser yn ôl perfformiwyd Hamlet "in modern dress." Nid gormod efallai fydd disgwyl i amddiffynwyr Ceiriog yn y dyfodol ddal dano am wneuthur rhywbeth tebyg yn "Myfanwy Fychan."

Hyd yn hyn, wrth geisio tynnu Ceiriog allan o ddyryswch camfarnau ei ganrif ei hun, bu raid imi sôn mwy nag sydd wrth fy modd am ei wendidau, ond rhaid imi eto ddywedyd nad er mwyn ei gondemnio yr wyf wedi treulio cymaint o amser gyda hwy, ond er mwyn ceisio gwasgaru'r tew gymylau sydd yn cuddio llawer o'i ogoniant. Os dymuna rhywun sydd â chanddo ronyn o ddawn at feirniadu llenyddiaeth ganfod, drwy arbrawf syml, wir fawredd Ceiriog, ni all wneud yn well na'i gymharu â dau fardd arall a oedd yn gymheiriaid iddo yn ei gyfnod ac yn ei amcan, sef Talhaiarn a Mynyddog. Yr oedd gan Dalhaiarn yn