Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceiriog (Darlith y BBC 1939).pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arbennig ddiwylliant a chwaeth nad oedd gan Geiriog, ond nid oedd awen Ceiriog ganddo. Mewn rhyddiaith yn hytrach nag mewn prydyddiaeth oedd Talhaiarn yn artist, ac ni fedrodd erioed roddi yn un o'i ganeuon y filfed ran o'r bywyd sydd yn ei ryddiaith. Yr oedd Mynyddog yn debyg i Geiriog mewn un peth; yr oedd ynddo awydd rhoi difyrrwch, "entertainment," i'r genedl Gymreig, ond gallodd Ceiriog godi'r difyrrwch hwnnw i safon gwir farddoniaeth, yr hyn yn sicr na allodd Mynyddog.

Os ydym am chwilio am ei le yn hanes datblygiad y delyneg Gymreig, y mae'n haws inni ganfod ei gysylltiad â'r beirdd a ddaeth ar ei ôl nag â'r beirdd a fu o'i flaen. Ni hoffwn ddywedyd yn rhy bendant ei fod wedi yfed yn helaeth o ffynhonnau beirdd Eryri (telynegwyr fel Ieuan Glan Geirionydd a Glasynys), ond mae'r un nodwedd honno a roes arbenigrwydd a newydd-deb yn nhelynegion Ieuan Glan Geirionydd i'w gweled yn amlwg yng ngwaith Ceiriog hefyd, sef ymhyfrydu yng Nghymru fel gwlad weledig, —fel lle ar wyneb y ddaear, yn ei hunigeddau tawel, yn aruthredd ei chreigiau, ac yn sŵn pell brefiadau'r defaid ar hyd y moelydd. Cyn belled ag y gwelais i wrth ddarllen