drwy lenyddiaeth Cymru a rhai gwledydd eraill, nid oedd neb yn yr hen ganrifoedd yn teimlo bod dim yn y pethau hyn yn werth canu amdanynt, ond nid yn unig fe ddarganfu Ceiriog eu gwerth trosto ei hunan, ond gwnaeth hwy hefyd yn brif ogoniant yn ei gyfraniad ef i ymerodraeth yr awen; y rhain yw'r tiroedd newydd a gonerodd ef ac a ddug i dalu eu teyrnged i'r hen frenhinoedd cydnabyddedig. Ond nid hyn oedd y cwbl a wnaeth; nid casgliad o olygfeydd rhamantus yw Cymru iddo, fel yr oedd i rai Cymry a oedd yn ysgrifennu Saesneg yn ei oes, ond yr oedd Cymru hefyd iddo ef yn genedl ac yn bobl, yn gymdeithas ddynol a hanes iddi a oedd yn gyfliw ac yn gytgord â'i golygfeydd. Ac nid hanes politicaidd yn unig ydoedd hwnnw; yr oedd traddodiad o ddiwylliant cerddorol, er enghraifft, ymhlith y rhan honno o'r werin Gymreig a swynai fwyaf ar ei fryd. O ganlyniad, iddo ef yn ogystal ag i Dalhaiarn, y mae inni ddiolch am waredu llawer o'r hen alawon rhag ebargofiant. Yr oedd ganddo ei hunan gryn ddawn gerddorol er nad oedd ei ddysg gerddorol yn uchel, ac o'r ddawn honno y cododd nid yn unig ei gariad at yr hen alawon, ond ei fedr anghyffredin i greu
Tudalen:Ceiriog (Darlith y BBC 1939).pdf/25
Gwedd