geiriau cyfaddas iddynt. Nid oes ofod i ymdrin â phwnc pwysig cyfraniad Ceiriog i'n gwybodaeth ni o'r hen alawon; digon yma fydd sylwi ei fod yntau weithiau wedi methu yn lled druenus fel yn "Toriad y Dydd " a "Breuddwyd y Frenhines." Mae'r holl ddiffygion y soniasom amdanynt yn Myfanwy Fychan "i'w cael yn y rhain,—prin efallai y mae yn holl erchylltod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ddim hafal i vulgarity y geiriau a gyfansoddodd i "Breuddwyd y Frenhines." Ond ar gyfer hynny, rhaid gosod y ffaith bod yr alawon Cymreig o'r diwedd wedi dyfod am y tro cyntaf i fyd y diwylliant cenedlaethol. Un o nodweddion mwyaf trawiadol yr hen drefniant Cymreig ar farddoniaeth oedd y manyldeb mawr a'r gofal i gadw clasuroldeb traddodiadol y Pencerdd rhag cael ei lychwino gan gyffyrddiad diraddiol unrhyw ganu gwerinol. Parhaodd yr hollt hon yn llenyddiaeth Cymru drwy'r cyfnodau tlodion yn ogystal â'r cyfnodau cyfoethog, ac ni allai beirdd clasurol fel Goronwy Owen byth ymysgwyd o'i gafael pan sonient am farddoniaeth. "Beirdd bol clawdd " oedd y gwerinwyr awengar ym marn Goronwy, a diddorol fuasai gwybod ei syniad ef am
Tudalen:Ceiriog (Darlith y BBC 1939).pdf/26
Gwedd