ddiddordeb y Morysiaid yn y pethau gwerinol hyn. Bu agos i Lewis Morys lwyddo i lenwi'r gagendor a oedd fel hyn yn rhannu ymwybyddiaeth lenyddol y genedl, a'm barn bersonol yw y buasai ef a'i frawd Richard Morys gyda'i gilydd wedi llwyddo wneuthur hynny pe baent wedi cael cyd-weithio yng Nghymru. Pan lafuriai Richard Morys i gasglu'r hen gerddi gwerinol, yr oedd yn rhag-gysgodi gwaith mwy effeithiol a wnaed gan Geiriog ymhen can mlynedd yn y "Bardd a'r Cerddor," a'r "Cant o Ganeuon." Llwyddodd Ceiriog lle na lwyddodd y Morysiaid, nid yn gymaint oherwydd ei ragoriaeth prydyddol ond am fod gwerin ddiwylliedig erbyn hyn yn sefyll yn un genedl gref tu ôl iddo.
Mewn un ystyr, gwaith mwyaf Ceiriog oedd dangos i'w gydgenedl fod eu halawon gwerinaidd, eu harferion gwerinaidd, a'u dulliau gwerinaidd o feddwl a byw, yn curo wrth ddrws diwylliant Cymru ac yn hawlio cael eu gollwng i mewn; iddo ef yn anad neb arall y mae inni ddiolch am baratói lle iddynt yn adeilad y bywyd newydd yng Nghymru. Ac yn yr ystyr hon, ni ellir meddwl am ddim sy'n rhoi mwy o anrhydedd ar goffa Ceiriog na'i alw'n fardd gwerin