Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Cymru. Os oes neb yn dal i amau gwerth ei gyfraniad ef yn ei flynyddoedd cynnar i hynny o ddiwylliant sydd gennym heddiw, carwn wahodd y gŵr hwnnw i gymharu'r hyn a geir yn y "Bardd a'r Cerddor" a "Cant o Ganeuon " ag eglurhad Syr Owen Edwards ar ei amcanion ei hun yn rhifynnau cyntaf y Cymru a Chymru'r Plant. Ni wn fod neb o'r blaen wedi cymharu Ceiriog ag Owen Edwards, ond cafodd y bachgen o Lanarmon ym Manceinion yr un weledigaeth hanfodol ag a gafodd y bachgen o Lanuwchllyn yn Rhydychen.