CEIRIOG
Pe bai rhywun yn gofyn inni roddi prawf o bwysigrwydd Ceiriog ym mywyd Cymru, un o'r pethau cyntaf a ddeuai i'n meddwl fyddai'r cyfnewid mawr sydd wedi bod fwy nag unwaith yn syniadau'r Cymry amdano. Ni wn am yr un bardd Cymreig a fu'n achos cymaint o ddadlau am ei werth, na'r un bardd Cymreig diweddar sydd yn ddigon pwysig i'r beirdd ieuainc i ennill tipyn o hynodrwydd iddynt eu hunain drwy ei wneuthur yn gocyn hitio. Pan oedd Ceiriog yn dechrau ar ei yrfa, tybiai ei gyfoeswyr am ei ganeuon na bu dim erioed mor annhebyg i'r hyn a dybient hwy yn farddoniaeth. Yr oedd yn naturiol, efallai, i John Roberts, Conwy, yn y Cronicl, ymosod yn chwerw arno, gan fod Ceiriog ei hunan wedi bod yn rhemp o annheg ac o gïaidd at ei frawd, Samuel Roberts; ond am y rhan fwyaf o'i feirniaid, nid oedd ganddynt yr un esgus i gyfrif am eu dirmyg tuag ato ond anwybodaeth a diffyg chwaeth.
Aeth cyfnod y dibristod hwn heibio yn fuan, ac o adeg ei farw ymlaen hyd y Rhyfel Mawr yr oedd bri Ceiriog ar ei eithaf.