Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceiriog (Darlith y BBC 1939).pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yng ngolwg llawer o'i gydwladwyr, ef oedd bardd mwyaf Cymru er amser Dafydd ap Gwilym, a phrawf bod ei boblogrwydd yn wirioneddol ac nid yn beth ffasiynol oedd hyn,—bod y naill fardd ieuanc ar ôl y llall yn yr oes honno yn ail ddarganfod Ceiriog drosto 'i hun, ac yn cael ysbrydoliaeth ac awen i ddechrau canu, fel y caiff beirdd heddiw ysbrydoliaeth yng ngwaith Williams Parry a Gwynn Jones. Credaf fod Elfed ac Eifion Wyn yn engreifftiau o ddau fardd a gychwynnwyd ar eu gyrfa gan gyfaredd yr unig delynegwr gwirioneddol a gynhyrchwyd yn rhan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn ein hoes ni, y mae'r olwyn wedi rhoddi tro crwn eto, ac, fel y dywedais, mae beirdd ieuainc heddiw yn paratôi at frwydr bywyd drwy hogi eu cleddyfau ar garreg fedd Ceiriog. Nid wyf yn beio dim arnynt am hynny,—gwneuthum innau yr un peth fy hunan. Ond y mae gennyf i hawl i un hynodrwydd,—nid oedd neb wedi gwneud hynny o'm blaen.

Wrth gwrs, gwaith ofer fyddai i neb sydd yn gymwys ac yn onest yn ei feirniadaeth lenyddol geisio amddiffyn Ceiriog yn erbyn llawer o'r cyhuddiadau a ddygir yn ei erbyn. Fel y cawn weld efallai, y