Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceiriog (Darlith y BBC 1939).pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae peth o'i waith na ddaw byth yn ôl i ennill ffafr y Cymry diwylliedig. Ond nid fy amcan yw sôn am y rhan hon o waith Ceiriog, ond yn hytrach geisio galw sylw'r rhai sydd yn fy ngwrando at ei wir ragoriaethau, ac efallai awgrymu iddynt resymau newyddion i gadarnhau eu hedmygedd ohono.

Yn y lle cyntaf, dylem gofio mai canu i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd Ceiriog, ac mai o ganol bywyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg y tyfodd ei ddawn. Er y dylai bardd mawr godi uwchlaw rhagfarnau ei genhedlaeth, a sarnu ar y pethau sydd fwyaf diwerth yn ei oes ei hun, eto ni ellir disgwyl i'r un bardd godi uwchlaw'r rhan honno o ymwybyddiaeth ei genhedlaeth sydd yn dibynnu ar gynnydd gwybodaeth ac ar y cyfanswm o olau a diwylliant sydd gan ei gyd-genedl yn gyffredinol. Am hynny, am mai canu i gynulleidfa y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr ydoedd, ac mai offeryn wedi ei lunio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd ei delyn, ni ddylem ddisgwyl clywed arni alawon sydd uwchlaw amgyffred ei wrandawyr, ac ni ddylem chwaith ofyn am berfformiad rhagorach nag y gall neb ei roddi ar y cyfryw offeryn