Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceiriog (Darlith y BBC 1939).pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ag sydd ganddo. Mae condemnio Ceiriog am fod ynddo wendidau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg mor ddireswm â beio Tennyson am fod yn "Victorian." Ond un peth y mae gennym hawl i'w farnu, sef awen a medr y gŵr sydd yn canu'r delyn, canys y mae'r rhain yn annibynnol ar amser a lle. Ac wrth y safon hwn rhaid rhoi Ceiriog ymhlith beirdd mwyaf Cymru, ond ni wnawn chwarae teg â'i fawredd oni allwn hefyd wahanu'r gwenith sydd yn ei waith oddi wrth yr efrau.

Pan ddechreuodd Ceiriog ganu ym Manceinion ym mlynyddoedd canol y ganrif ddiwethaf yr oedd barddoniaeth delynegol Cymru, ac yn wir holl farddoniaeth y mesurau rhyddion, ym mhwynt isaf ei hanes. Nid oedd yr un telynegwr wedi codi i ganu yn y mesurau rhyddion ar ôl Ieuan Glan Geirionydd; mae'n wir nad arllwyswyd erioed ar y wlad y fath swm enfawr o'r hyn a elwid yn farddoniaeth, ond yr oedd chwaeth y genedl wedi ei foddi o dan y dilyw enbyd hwn. Yr oedd llenyddiaeth wedi myned i law urdd arbennig o ysgrifenwyr, y bardd-bregethwyr, a chelfyddyd y llenor a'r bardd wedi ei gostwng i fod yn llaw-forwyn i syniadau'r oes am foesau