Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceiriog (Darlith y BBC 1939).pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chrefydd. Ac yn waeth na'r cwbl, yr oedd mympwyon am iaith a gramadeg yn chwilenna trwy ben yr ysgrifenwyr hyn; mewn gair, yr oedd pob safon ar awen ac iaith a fu erioed yng Nghymru wedi ei anghofio. Os rhaid cael gair i ddisgrifio sylwedd a ffurf ein llenyddiaeth tua'r amser hwn, ni wn i am well gair na therm yr Eifftegwyr, "debased hieratic," ffurf isel ar ddull offeiriadol o ysgrifennu. Wel, peth hawdd yw i ni heddiw ganfod tlodi'r blynyddoedd hynny, ond pe buasem ni'n byw yn yr oes honno nid yw'n debyg y buasem ni na neb o'r rhai sydd erbyn heddiw yn ddigon iach eu barn lenyddol yn gallu cynhyrchu barddoniaeth a fyddai'n ddim gwell. A dyma'r gwahaniaeth rhwng Ceiriog ac ymhonwyr llenyddol ei oes,—er mai yng nghanol y diffeithwch hwn y deffrowyd ei awen gyntaf, yr oedd ynddo ddigon o wroldeb ac annibyniaeth chwaeth i ymwrthod â'r rhan fwyaf o safonau ei oes. Os craffwn ar ei ddatblygiad yn ei flynyddoedd cyntaf gwelwn ynddo ryw fath o ddiniweidrwydd llenyddol hoffus iawn; yr oedd fel pe na bai'n gwybod dim ar y dechrau am ffasiwn yr oes mewn llenyddiaeth, ac fel y bydd ambell ferch dlawd