"Wrth bwy y dywawd efe ei feddyliau?
Wrth bwy y dywawd gyfrinach ei fyd?
Cans breuddwyd anhymig yw'r mil credoau,
A hud yn marw yw gwyddor a chelfau,
A Duw yn ddwyfol annirnad o hyd.
"Ai ni fedr enaid ond siarad a threngi
Yng ngwyddfod rhyw Unben tragywydd, mud?
Gwelaf bob deall a golau yn methu,
A'r dryswaith anghyffwrdd yn eu gwasgaru,
Fel niwl ar fynyddoedd digariad fyd."
Eto atebais i'r deall digalon
Bylwyd gan ormod disgleirdeb y nef:
"Pand bregus fel niwl yw deall yr awron?
Ac ofer y ceisia'r gwyddorau gloywon
Gyfieithu bwriadau'r anneall lef.
"Gan hynny gad ymaith dy reswm materol
A phlyg megis plentyn i'r dwyfol hud;
Ac yna di glywi yr ysbryd tragwyddol,
Wrth grymu trosot yn murmur gwyryfol
Dlws hwiangerddi'r cyfriniol bell fyd."
IV Tinc y Cariad
A'm henaid i neithiwr rhwng cwsg ac effro,
Fel breuddwyd yn nhiroedd drycin a lloer,
Mi welwn ofidus ifengwr yn crwydro
A chrog ar ei ysgwydd ddolurus yn pwyso
A'i waed yn diferu ar ddaear oer.
Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/101
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon