Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pand dieithr a mud im henaid a 'mhoenau
Yw Arglwydd y fforest, y lli, a'r maes?
Annirnad a dwfn yw cerddi ei gorau
Anneall a phell yw gweddi i breladau
Pan grymant o'i flaen yn eu gwisgoedd llaes.

Di, Unben y cread a'r oed hudolus,
Sydd yn y pellter anghyffwrdd yn byw,
Dyred i gymun â'm calon ystormus,
Dyred a dwed wrth fy enaid blinderus,—
Nac ofna di, alltud trist,—"Myfi Yw".

II Llais y Brawd
Un dydd, yn y ddrycin, roedd llafar rhyw broffwyd
Yn crynu o lwydni'r parthau di-glod,
Diasbad ei hirllais anorthrech glywyd
Yn dyfod tros lawer i hendre friglwyd,
Fel llef un yn llefain: "Mae'n dod, Mae'n dod".

Yna rhywelais ddyffrynnoedd a bryniau
I gyfwrdd yr hwn a geisiais gyhyd;
Cans gwelais ei drem trwy fwg yr allorau,
Fei clywais yn dod yn sŵn y caniadau,
A ganodd proffwydi y cynnar fyd.

Fy myfyr oedd orlawn o'r drud orawen
A gaffwn pan gwrddwn âr Unben claer,
Fe'i gwelwn yn dod â thanllyd deyrnwialen,
Mewn mantell rosliw â bordor o heulwen
A chanddo dalaith o emrald ac aur.