A gwelwn ar lu o benrhynnau duon
Dorf o rai tlodion prydwelw a llesg;
Roedd llewych y storm yn eu llygaid llwydion,
A chrynai o'u parabl ofid digalon,
Fel wylo a griddfan gwynt yn yr hesg.
Ddued y gwelwn i ddaear a nefoedd,
A dued oedd lliw calonnau y byd!
Crwydrai anobaith a phechod yr oesoedd
Fel gwynt digartref ar wyneb y dyfroedd,
A lludw'r allorau ar ei adain ddrud.
Tebygai fy hwyliau i niwl y bryniau
Pan blyco tan gyhwrdd y gwynt yn ddellt;
Fy enaid clwyfus yn holi am lannau,
A churai fy ngwaed gyfeiliant fy ofnau
Yn llewych adanedd tyrfa o fellt.
A'm gweddi yn codi fel gwaedd y dyfnder
I rywle at rywun a welswn gynt,
Mi glyw-wn y storm yn lleddfu'i chreulonder,
A'r don yn gado'i chynddaredd goriander,
Ac islais rhywun yn dod ar y gwynt.
A gwelwn yn dod rhwng ffluwch y gwendonnau,
Rywun ag eurol sant gylch ei ben;
Yng nglas ei lygaid roedd gwawr a heulwenau
A chlyw-wn ym melys ddistyll ei eiriau
Ysgawnllais llateion y loywach nen.
Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/106
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon