A phe drylliai'r gwyntoedd linynnau fy nhelyn
Bydd deufwy y gân ar y tannau fo'n friw;
A phe'r awn mor dlawd a digartre â'r ewyn,
Mi ganwn a süwn o draethell i benrhyn
Am orwelion disglair a thymhestloedd lliw.
Bid greithiog fy mynwes gan drymder yr henfyd,
Bid gymhleth fy ngwallt ag ystormydd y gwynt,
A disgynned y mellt o'r asur gadduglyd,
Fel cawod o wreichion ar lwybrau fy ngwynfyd,
Cans nid oes a etyl ryferthwy fy hynt.
Ni'm temti, O ddrycin, cans prynaf y wenfro
A thelyn ysgyrion a chleddyf fo ddellt;
Mi a wn mai chwerw yw ffordd Eldorado,
A gwybydd fy enaid yn llwydni y brwydro,
Nad Prometheus nebun onis prawf y mellt.
Er wylo mewn glynnoedd prydwelw gan dlodi
Mi glywaf ddyrifau ysbrydion y wawr
Yn canu o lwybrau'r dihenydd felyni,
Yn canu im wybod a swyn digreuloni,
A'm calon sy'n chwerthin ar y pellter mawr.
Fel eraill fe'm ganwyd i'r Wynfa nas gwelais
Onid ym melys orohïan fy ffydd,—
Y Wynfa a ery 'n dragywydd i'm goglais
A'i milfil o belydr ysgawnlliw ac islais,
Cans hi yw dewiniaeth ddrud y gyhudd.
Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/116
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon