Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhai dewr a hoffus ar grwydr o draffell
A gyrchai yngo i gôr a changell;
A doi'r beirdd o'u hendre bell-dan ei nen,
Wroniaid awen bryd heldrin dywell;
Ar ei phwys y gorffwysynt,
Awenwyr ac arwyr gynt,—
Diasgloff gewri disglair
Caeth i swyn y Forwyn Fair.

O'i fyd di-wên doi aml unben tanbaid
Yno i degwch ei swyn bendigaid;
Ac yno deuai'r gweiniaid-o'u pell bau
I roi eu horiau i'r Wyry euraid.
Er trymder yr amseroedd
Ei byd syml darbodus oedd
I'r clwyfus yn elusen
A gwin i wŷr egwan hen.

Ac yno cedwid pob dysg odidog
A "rhuddem roddion" henfeirdd mawreddog;
Canys cai'r wlad ddrycinog-ynddi hi
Lên a dyri yn ei dydd blinderog.
Synod wen! rhoes, yn ei dydd,
Hafan i ddysg a chrefydd,
Pan oedd rhyfel a'i helynt
Yn gwasgu ar Gymru gynt.