Prawfddarllenwyd y dudalen hon
"O redyn y dyffryn dir
Eilwaith abadau elwir,
Ac eilwaith bydd tinc wylo
Rhyw osber hen ar draws bro;
Daw yr hen offerennau
O law'r bedd yn ôl i'r bau,
A llefair hud o'r gell frau
Felys araf laswyrau;
A'r myneich glân, tan ganu,
Gânt ddod, liw gwylanod lu,
O dyweirch y Cwm diwair
I oed â'r fwyn Forwyn Fair.
"A phan bo'r hwyr ar ffin bro
A nos-awel yn suo
Clywir son ysbrydion brud,
Is owmal darth, yn symud,
A diweirllu yn darllen
I ysig wŷr rhyw ddysg hen;
Eilwaith ceir gwylio helynt
Y dyddiau gwell, santaidd gynt,
A gweld mil seintiau diloes
Y byd aeth o wybod oes:
Rhodiant o'r bedd marwydos
Ar gaen niwl a lloergan nos.
"Eithr ar neshâd toriad dydd
Hwnt gwinau gant a gweunydd;
Hud yr hwyr o'r neuadd dry,
Ac oer fydd cainc y Wyry.