IV
Neithiwyr gwenlloer ddisglair nofiai'r nefoedd,
Brudded a dwysed â breuddwyd oesoedd:
Pob rhyw hud a goludoedd—dorrai'n gân
Gywoeth o arian ar wig a thiroedd.
Hyfryd uwch y cwm difri'
Casglai'r niwl delediw li
Liw pebyll rhyw wersyll wawn.
Neu esgyll o farbl ysgawn.
Gwelwn drachefn rhyw anhrefn o wynros,
Gloywon wedd cerygl o winoedd ceirios:
Ac ar waun ddiddig a rhos—gwelwn ynn
Ac aml dyddyn is eu cymyl diddos.
Ac ar y pellter arian
Lleuad oedd fel gelli dân,
A'i hambr hud ar gwm a bron
Dorrai'n ddewiniaeth dirion.
Yna mi welwn godi o'r moelydd
Eneidiau o'u hun, ar ddull dihenydd;
A llawer hen awenydd—gyrchai'r tir
O rug y gwyllt—dir a chreigiau gelltydd.
Pob un yn cerdded wedyn
Hyd ymyl swrth y deml syn,
Ar wedd anhymig freuddwyd
Addfwyn a lleddf, hen a llwyd.
Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/133
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon