A hwy yn cerdded rhwng ifanc wyrddail,
Drwy'r hwyr digymar, i oedfa'r adfail,
Tros y ffriw daeth gwynt miwail,—gan roi maith
Sidanog hoywiaith tros dwyn a gwiail.
Deuai pob cysglyd awen
O fedd oer canrifoedd hen;
Tros ennyd torrai'u seiniau
O'r mur breg yn furmur brau.
Yna o'r tarthiau a'u haenau gwynion,
I hud yr oror, codai yr awron
Ddau yn dwyn nodau mwynion—prydferth oed
Rhyw oesau henoed o fflur a swynion.
A than dangnef y nefoedd,
Isel lais eu sisial oedd
Megis peraidd, hafaidd hynt
Soniarus awen hwyrwynt.
Pa ryw waeth o phylodd pryd
Achle y mynach nychlyd,
Ac od yw cwsg wedi cau
Oed ei hirion baderau?
Ei Gred freg a'i Ave gynt
A'i laswyr oll giliesynt;
Y Wyry a Phedr o'r tir ffodd
A'i Wyliau yntau welwodd:
Ar ei fin rhoed yr hinon
Amliwiog, flodeuog don;
Yntau frwd gorwynt y fro
Uwch ei wyrdd gysgle chwarddo.
Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/134
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon