Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ac yno rhyw ŵr canwelw
Arhoai dan frigau'r derw;
Ei fantell chwyfiai wyntoedd
A'i wedd yn null Myrddin oedd,
Hithau y nos tros noeth nef
Ei gandryll aethog hendref.
"A'i leddf air galwodd i fod
Oesau hen y freg Synod;
Ac ar hyn rhyw dri gŵr oedd
Yn tario ar y tiroedd
Mal dison ysbrydion brau
Cynnar haf y canrifau.
"Ar un 'roedd delw'r trinedd,
Gwisgiad dur ac esgud wedd;
A'i darian, fel ei diroedd,
Yn dolciog, ysgythrog oedd.
Y llall oedd mewn mantell wen,
Geined ag eiry gaenen;
A'i lwyd fin, cynefin oedd
A llaswyr y pell oesoedd.
"Y trydydd trwy'r lawnt rodiai
A'i drem oll fel mwynder Mai;
Ei hirwallt crych, eurwyllt, crog,
Donnai fel ffrwd adeiniog;
Ac ar ei fant ramant ros
I'w gariad wefus geirios.