Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar hyn y dewin a drodd,
A rhwydd i'r tri wŷr rhoddodd
Dair o glych diwair a glas
Wasgarai fiwsig eirias;
Ac wedyn y gwynt gododd,
A phawb o'r rhithiau a ffodd.

"O'u myned o'r cwm unig
I ryw oer, anghyffwrdd drig,
Da y gwn fod nwyd y gerdd.
Yngo o hyd yn angerdd,—
Yn hud ail i sŵn deilios
Dan wynt pêr yn nyfnder nos;
A chân y clychau hynny
Yn y dud sant o hyd sy:
Canant ar lif drycinau,
Heibio i'r hen furddyn brau;
Canant am atgo einioes
Y byd aeth o wybod oes;
Ac yno rhydd cân y rhain
Alaw egyr Ein Plygain."

Yna'r gŵr breg oer ei bryd,
Dawodd fel sŵn dyhewyd.