Oddi fewn gwelwn orsedd o fynor
Ac arni ogonaid ddi-gryn gynnor;
Ei lais mwyn fel su y môr,—a'i dalaith
O wneuthuriad perffaith rhyw hud porffor.
Yno roedd duwiau cerdd a dyhewyd
A hoen ac asbri pob ieuanc ysbryd;
Nid oedd ŵr annedwydd hyd—y wenfro,
Ac ni bu yno o'r drwg nai benyd.
A dull y gwron di-wall a gerais
Ger allor heulog ar y llawr welais,
Ac yn ei lyfn ysgawn lais—yr awron
Hud ag alawon uwch gwybod glywais.
Cans rhyw dduw â rhin ei fedr dewinol
I'w ganaid wefus roes egni dwyfol;
A rhoed lliw disglair hudol—i'w enaid
O hafau euraid yr oes anfarwol.
A rhoed dyhewyd hendre y duwiau
Yn hud anorfod i'w danllyd nerfau,
A chrisiant serch yr oesau—fel haen ddrud
O ryfedd olud ar ei feddyliau.
Ei law fynoraidd gariai lafn eurad
A heriai dras pob diras ei doriad,
Ac ar ei harddaf safiad—gwelwn ddelw
Un allo farw i ennill ei fwriad.
Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/142
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon