Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Er i helynt y gerrynt ei guro,
A bwrw ei hirnych o'r wybyr arno,
Ni wêl hwn ddim a'i blino,—canys bydd
Awen y gwynddydd pellennig ynddo.

Rhyw ddydd llachar ofwya'r tyrfaoedd
I'w oed urddasol 'rôl dadwrdd oesoedd;
Yna holl wae ei drinoedd—dry'n nerfus
Gân ar wefus moliannus ganrifoedd.

Tros wefus ddi-wrid y pyramidiau
Efe a lefair am ddwyfol hafau;
Ac o'i lyfn gofgolofnau—efe fydd
Duw a thywysydd gorymdaith oesau."

Gwelwn y macwy mwy yn tramwyo
I'w henwlad irad yn ôl i dario;
Ond ar hyd Eldorado—llu mwynllais
Yn dawnsio welais, a'r duw'n noswylio.

Galwyd finnau o 'mreuddwyd mawreddog
Gan wyntoedd oerfin cethrin ysgythrog;
A chanai crych ewynog—ar y traeth
Ogonedd hiraeth fy mron gynddeiriog.