Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Enwau'r sêr au niferoedd
A'u lliw yn nail fy llên oedd;
A thrwy drwm a dieithr drais
Erod pob gwyddor huriais.
"Fy nerthoedd tymestl oeddynt
Yn huodl gerdd Handel gynt;
Cenais drom oerlom hirlef
Uffern, a hoff eiriau nef,
A llawer clir gywir gân
O hawddfyd dyn a'i riddfan.
"Mae twrf gwyntoedd cymoedd cau
Yn hud ar fy nghaniadau,
A llam hoyw pob lli miwail
A su dwys isleisiau dail.
Tithau wrandewaist weithian
Fy angerdd, fy ngherdd, fy nghân;
A'r tâl mau fu treisiau trwm
Eiddig warthrudd a gorthrwm.
"A'm hewyd fu'n fflam awen
Mewn llawer i Homer hen;
Gwisgais bob cân â manaur
O geyrydd yr hwyrddydd aur;
Ac yn hedd y nos cawn wau
Soned o wrid rhosynnau;
Ac yn honno atgo hen
Holl hiraeth mŷr y lloerwen.