Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Od ymleddais ymgais oedd
Er ennill i ti rinoedd;
A'th ennill o byrth unig
Y nos ddofn a'i theyrnas ddig;
Ac ar y daith hirfaith oed
Lluniais rhag tywyll henoed
Hafod wen i'th fywyd di
O lelog teg a lili.

"Er dy fwyn bu'r crwydrad, ferch,
Trosot bu trinoedd traserch;
A throsot ti gweddîais
A haenau llosg yn fy llais.
Gwyddost, Wen, na fu gennyf
Un Iôn na fawn arno'n hyf.
Eithr daeth oer fâr i'th gariad
A niwl o fro anial frad;
Minnau, fu gynt ym mhenyd,
Yng nghymhelri'r cewri cyd,
A chwythaist o'th serch weithion
Ail ewyn deifl blaen y don.
Eithr ba waeth, ni fathr y byd
Actau ieuanc dyhewyd;
Gwedi cŵyn ac oed cyni,
I'r hafod wen cariaf di:
Yno cei fywn unbennes
Yng ngwlad hardd anneongl des."