Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1887—1917

GANED Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, Meirionnydd, ar y 13 o Ionawr, 1887, ac yn yr Ysgwrn, tyddyn ar gwr y pentref hwnnw, y magwyd ef.

Saif yr Ysgwrn ar yr ochr dde i'r hen ffordd sy'n arwain o Drawsfynydd i Gwm Prysor. Y mae'r tŷ yng nghanol llwyn o goed, mewn cafn yn y creigiau, a'i wyneb i gyfeiriad y wawr. Oddi yno gwelir y cwm creithiog yn ymestyn i'r pellterau, a'r Arennig Fawr ar ei gwr eithaf. Wrth edrych i'r chwith gwelir bryniau Trawsfynydd, y fynwent ar un ohonynt, a'r pentref ar y llall. Y tu draw iddynt hwy ceir ôl bysedd y Rhufeiniaid ar Domen y Mur. A thu draw i honno drachefn, tros hen gartref Morgan Llwyd, y mae ardal Ffestiniog fel Caersalem fel Caersalem "a'r mynyddoedd o'i hamgylch." Gwelir crib yr Wyddfa yn y pellter. Ac ar war y ffridd yng nghefn yr Ysgwrn gwelir Cader Idris, a mynyddoedd a Drws Ardudwy.

Nid rhyfedd bod delw ei gartref ar ganeuon Hedd Wyn. Bardd y mynydd yw efô; bardd y gwyntoedd, y gorlan, a'r grug.

Yno holais y niwloedd, a hwythau,
Y creithiog fynyddoedd;

—dyna'i neges ef. O dan hud y rhain y tyfodd ei feddwl, a'u cyfriniaeth hwy yw ei farddoniaeth.

— Fe âi Hedd Wyn, yn fylchog, i Ysgol Elfennol y Traws nes myned ohono'n ddigon hen i aros adref "i wneud rhywbeth." Adref y bu wedyn nes dyfod o'r wŷs i ymuno â'r fyddin. Bu unwaith am ysbaid