Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"I'w neithior tros y moroedd—galwa'i wreng
Gwelw rudd y mynyddoedd;
Ar ei air tyrrai'r tiroedd—
Rhuthr a chyrch anorthrech oedd.

"Deffrowyd y breuddwydion—a hunent
Rhwng ein bryniau llwydion;
A thorf aruthr o feirwon
A fywheid gan y llef hon.

"Gadawent drig y duwiau—tua'r wawr
Megis trin o ddreigiau
O'u hôl roedd sŵn dialau
Yn holl byrth y dywell bau.

"Ar gŵr tros dduoer geyrydd—a orug
Eu harwain o'u tywydd,
Drwy chwyldro wen ysblennydd,
I ryddid oes werdd ei dydd.

"Yno, ebr ef, cai fanon—ado'i hen
Anghrediniaeth greulon;
Duwiau'r hwyr o'i mynwes drôn,
Eilwaith daw serch i'w chalon.

"Ond diarbed i'w erbyn—y duwiau
Duon a godesyn;
Heno bydd salm y bedd syn
Yn torri trwy'i wallt hirwyn."