Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yna y llais ddiflannodd,—ar hwyrwynt
Trwy'r oror drist wylodd;
A niwl du anaele dodd
Lwyd dwyni y wlad danodd.

Eithr yn ddirgel rhywelais—heibio oer
Aberoedd du tristlais;
Ac i'r oed doi'r gŵr wawdiais
Yngo fal hud angof lais.

Ar ei grog draw yn crogi—yn ei waed
Gwelwn ef ar drengi;
A'r awel oer a'i phêr li
Hyd ei hirwallt yn torri.

Rhyw aethus lwydwawr weithion—hyd oror
Y dwyrain diglion
Dorrai fel ar arch dirion
Y gŵr gaid ar y grog hon.

Un ennyd cyn ei huno—dywedodd
Diadwyth a drengo
A dydd ei ddyhewyd o
I'r awyr yn dwyreo.

"Wele, ferch, dyrchafael fydd,—yno tau
Pob rhyw storm annedwydd;
Ac i'r oed is y coedydd
Cariad rhos o'i dranc hir drydd."