yn Neheudir Cymru yn gweithio, ond nid oedd yn gysurus yno o gwbl. Fel hyn yr anfonodd ar y pryd at un o'i gyfeillion i'r Traws:
Yn y South fy nghorffyn sydd,
A f'enaid yn Nhrawsfynydd.
Hyd y ffriddoedd a'r creigiau y byddai ef wrth ei fodd. Plentyn natur ydoedd. Tyfodd fel blodyn ar y mynydd, yn ffordd Duw. Yr oedd y nwyd farddoniaeth yn ei waed, ac yn gynnar fe'i dihunwyd hi ynddo. Cafodd yr "Ysgol Farddol" gan ei dad, a dysgodd y cynganeddion yn lled dda cyn bod yn ddeuddeg oed. Medrodd Evan Evans—ei dad—helpu cryn dipyn arno'r pryd hwnnw, gan fod ganddo yntau "grap ar y llythrenne." Yn ddeunaw oed enillodd Hedd Wyn ei gadair gyntaf, yn y Bala, am bryddest i'r "Dyffryn." Ar ôl hynny y cafodd ei ffug-enw, mewn arwest ar lan Llyn y Morynion.
Daeth i adnabod Elfyn, ac yn ddiweddarach Eifion Wyn. Darllenai bopeth y caffai afael arno, yn enwedig llenyddiaeth ei wlad. Benthyciai lyfrau gan ei gyfeillion, a hefyd o lyfrgell rydd Blaenau Ffestiniog. Mynych y cyrchai ar Sadyrnau i'r Blaenau am lyfr. Ac yna treuliai ei ddyddiau mewn tawelwch a hamdden i'w ddiwyllio'i hun. Hyfryd i'w enaid oedd "sŵn hen afon Prysor yn canu yn y cwm." Yno y "golchodd ei ddeall â golau'r awenau." Ac yno, o fyfyrio ar fywyd a'i anawsterau, y cryfhâi ei ffydd yn y Duw y gwrandawai ar "suon ei fentyll yng ngwynt y nos."
Ar gyfair Eisteddfodau y canodd y rhan fwyaf o lawer o'r cerddi hyn. Enillodd gadeiriau ym Mhwllheli