Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddi-nos yr haf anfarwol. Cofia nad chwedl mo Ynys Afallon. Ynys ym myd y galon ydyw hi, ac nid oes dim ond clwyf a dioddef yn gallu agor ei phyrth. Mae'r Ynys honno yng nghalon dy deulu, yng nghalon dy wlad, a thithau ynddi yn anwylach nac erioed.

Nid oes gennyf fawr iawn i'w ddweud wrthyt, ond ei bod hi yn dawel iawn yn dy hen gartref, yr heolydd yn wacach nac arfer, a'r gwynt fel tac o'n sibrwd "Ichabod o lwyn i lwyn, ond nid felly mae hi i fod, cofia. Mae'r gwanwyn sydd heddiw yn ifanc ar fedd y gaeaf a'r storm yn profi hynny, a chyn sicred a dyfod blagur i lwyn felly hefyd y daw bore o heddwch i fywyd ein teyrnas glwyfedig. A chyda'r bore hwnnw doi dithau a miloedd o fechgyn eraill yn ôl i'w hen gynefin, eu profiad yn fwy, a'u gwlatgarwch yn burach a mwy sylweddol, a'u cariad at heddwch yn angerdd newydd yn eu mynwesau.

Dyna fyd meddwl Hedd Wyn. Bychan y tybiai, pan ysgrifennai'r uchod, fod ei fedd ei hun mor agos ato; a chyn gwawrio o'r bore o heddwch y byddai pyrth Afallon wedi cau amdano'n dragywydd.

Un anodd i'w ddisgrifio yw Hedd Wyn. O ran yr olwg allanol, nid oedd dim neilltuol ynddo. Gellid ei basio ar y ffordd a thybied mai'r gwas ffarm distadlaf yn y wlad ydoedd. Pan weiddid ei ffug-enw yn Eisteddfod Llanuwchllyn yn 1915, cododd ar ei draed ym mhen draw'r babell; ond ar hynny dyma wraig gref o'r tu ôl iddo'n ei dynnu gerfydd ei gôt, gan ddywedyd "Eiste i lawr yn y fan ene fachgen, er mwyn imi gael gweld pwy sy'n ennill y gader!"

Oherwydd ei symlrwydd a'i naturioldeb, hoffai pawb ef. Nid wyf yn meddwl y bu iddo elyn yn unlle erioed. Ymddiddorai yn helyntion diniwed ei fro. Cofir o hyd am rai o'i ddiddanion oddi ar lwyfan y neuadd newydd yn y Traws. Cyfansoddodd aml englyn a chân chwareus, ac ymgollai mewn direidi iach cystal â neb.