Yr oedd llond ei natur o ddigrifwch tawel. Byddai plant bach Trawsfynydd i gyd yn adnabod Hedd. Wyn. Erys ei englynion ar ôl rhai ohonynt mor hysbys a diarhebion yn y fro. Gweision ffermydd oedd ei ffrindiau pennaf, a llawer o hiraeth a deimlai ar eu holau pan chwalwyd hwy i bedwar cwr byd. Eithr er mor ddiymhongar ydoedd, meddai ar uchelgais a phenderfyniad di-wyro.
O'i adnabod yn iawn, buan y canfyddid bod ysbryd anghyffredin yn syllu trwy ei lygaid gleision aflonydd. Pwy a fuasai, yn ei oed ef, ac wedi derbyn cyn lleied o fanteision, yn mentro cynnig mor ddygn am y gadair genedlaethol? Gwnaeth hynny ddwywaith cyn ennill ar "Yr Arwr." Pan fethai, ni surai ddim. Yr oedd fel pe'n siwr y gwawriai ei ddydd yntau rywbryd.
Cyfansoddai ei gerddi'n hamddenol, ond mewn brys bob amser yr anfonai ei waith i ffwrdd. Torrodd amodau cystadlu fwy nag unwaith oblegid hynny. Hir-oedai gyda phopeth bron. Dyna hefyd oedd ei hanes yn ei gysylltiad â'r fyddin. Oni bai gyrraedd o'i apêl am ryddhad yn rhy hwyr i'r awdurdodau, y mae'n fwy na thebyg na chawsai'r fyddin mohono. Ac y mae'n anodd dirnad beth a welodd neb erioed yn Hedd Wyn i feddwl gwneuthur milwr ohono. Nid oedd nac osgo nac anianawd milwr ar ei gyfyl. Ond daeth y wŷs ddi-drugaredd i'w orfodi yntau. Arhosodd yn rhy hwyr wedyn cyn dychwelyd i Litherland, a gadael Trawsfynydd am y tro olaf. Dyna, efallai, a barodd ei symud mor fuan i Ffrainc.