Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ychydig a wyddom amdano yno, ond amlwg yw ei fod yn hoffi'r wlad, ac yn mwynhau cwmni'r fataliwn y perthynai iddi. Fel hyn yr ysgrifennai oddi yno am y cwmpeini: Yr oedd dau o'r hogiau yma'r dydd o'r blaen yn dweud. wrth fy mhasio: "Well, kid." Ond trannoeth ar y parade dyma'r swyddog yn gofyn i mi ymysg eraill: "Well, man, did you shave this morning?" Ynteu'r swyddog ai'r hogiau oedd yn iawn, cewch chwi ddweud. Hefyd yr wyf wedi digwydd disgyn mewn lle llawn o brofiadau rhamantus, ac anghyffredin. Pan oedd tri neu bedwar ohonom yn cwyno ar y gwres, daeth hen filwr wyneb-felyn heibio, a dyma fo'n dweud: "Wel peidiwch a chwyno, boys bach, beth petae chwi yn Sudan erstalwm yr un fath a fi? Yr oedd gennyf helmet bres ar fy mhen, a phlât pres ar fy mrest, a rhywbryd tua dau o'r gloch ichwi, gwelwn rhywbeth yn llifo hyd fy nhrowsus, ac erbyn edrych yr oedd yr helmet a'r plât yn prysur doddi. Beth ydych chwi'n gwyno, boys bach?"

A dyma'r wlad, a'r hyn a welai ynddi:

Mae yma wlad ryfeddol o dlos yn y rhannau a welais i hyd yn hyn; y coed yn uchel a deiliog, a'u dail i gyd yn ysgwyd, crynu, a murmur, fel pe baent yn ceisio dweud rhywbeth na wyddom ni ddim amdano. Neu fel pe bai hiraeth siomedig o Gymru yn dychwel yn athrist, ar ôl methu cael hyd i rywun sy'n huno yn rhywle yn Ffrainc.

Gwelais yma lwyni o rosynau, a gwefusau pob rhosyn mor ddisglair a gwridog â thae myrddiwn o gusanau yn cysgu ynddynt. A chan fod y tywydd mor hyfryd ceir yma olygfa dlos y tu hwnt, yn oriau y machlud, a'r haul yr ochr draw i fataliynau o goed yn mynd i lawr mor odidog o hardd ag angel yn mynd ar dân. Ymhen ennyd gwelir llen denau o liw gwaed tros y gorwel, a rhyw felyndra tebyg i liw briallu wedi ei gyfrodeddu ynddi.

Ond y peth tlysaf a welais i hyd yn hyn oedd corff hen shell wedi ei droi i dyfu blodau,—yr oedd coeden fach werdd yn cuddio rhan uchaf yr hen shell, a naw neu ddeg o flodau bychain i'w gweld rhwng ei dail, yn edrych mor ddibryder ag erioed. Dyna i chwi brawf fod tlysni'n gryfach na rhyfel onid e, a bod prydferthwch i oroesi dig; ond blodau prudd fydd blodau Ffrainc yn y dyfodol, a gwynt trist fydd