Prawfddarllenwyd y dudalen hon
TELYN FUD
GWELAIS un ymhlith y defaid
Derfyn hafaidd ddydd;
Gwelais degwch rhos bendigaid
Ar ei ieuanc rudd;
Canai'r chwa wrth fynd a dyfod
Rhwng y grug a'r dail;
Canai yntau'n ddiarwybod
Gyda'i lais di-ail.
Gwelais ef yng ngŵyl ei henfro
Gynt yn canu cân,
Gwelais wedyn ei arwisgo
 llawryfau glân;
Clywais sŵn ei lais yn torri,
Fin allorau'r Iôr,
Megis sŵn ewynnau lili
O tan wynt y môr.
Wedyn gwelais ef yn edwi
Tan y barrug gwyn,
Ambell islais pêr yn torri
Tros ei wefus syn;
Yna gwelais ddyfod trosto
Olau'r machlud drud;
Hithau'r gân am byth yn peidio
Ar ei wefus fud.