Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Unlliw i mi Fentyll Mair
A dysglau o win disglair;
Tua'r trist gyfddydd distaw
Deuai'r haul dros fryniau draw;
Mwyn ei wedd, uwch mynyddoedd
Eryr aur yr awyr oedd;
Y nen drôi o'i hynod wrid
Yn ororau mererid;
Hudol pob cwmwl gloywdeg
Unlliw tud o emrallt teg.
Swil, unig, bell, las lynnoedd—a loywai
Dan lewych y nefoedd;
Gwaed y wawr drwy'u llygaid oedd,
A'u hewynnau fel gwinoedd.
I'r awel fore melyn
O wele glws niwl y glyn,
Fel adfail eursail wersyll
Tylwythau gêl hudlath gwyll.
Ha! ddifyr goedd fore gwyn,
Is yr awyr oes rhywun
Wylai pan byddo melyn
Firagl haul ar ddwfr y glyn?