Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MARW YN IEUANC

BU farw yn ieuanc, a'r hafddydd
Yn crwydro ar ddôl, ac ar fryn;
Aeth ymaith i'r tiroedd tragywydd
Fel deilen ar wyntoedd y glyn.

Hi garodd gynefin bugeiliaid
A chwmni'r mynyddoedd mawr;
A llanw meddyliau ei henaid
Wnâi miwsig yr awel a'r wawr.

Bu fyw yn ddirodres a thawel,
Yn brydferth, yn bur, ac yn lân;
Ac eto mor syml a'r awel
Sy'n canu trwy'r cymoedd ei chân.

Fe'i magwyd ym murmur y nentydd
Ar fryniau diarffordd Twr Maen;
Nid rhyfedd i'w bywyd ysblennydd
Flaguro mor bur a di-staen.

Mor ddiwyd oedd hi gyda'i gorchwyl,
Mor drylwyr cyflawnai ei gwaith,—
'Roedd delw gonestrwydd di-noswyl
Yn llanw ei bywyd di-graith;