Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BLODWEN

DYMA Blodwen wen heini—a'i grudd fac
Fel gardd fwyn o lili;
Ai tywyllwch mantelli
Y gwyll teg yw ei gwallt hi?

Dwy wefus liw gwrid afal,—a llygaid
Lliw eigion o risial;
Boed iddi glyd fywyd fal
Nefoedd o swyn anhafal.


DYMUNIAD

DYMUNWN fod yn flodyn—a'r awel
Garuaidd yn disgyn
Arnaf i yn genlli gwyn
Oddi ar foelydd aur-felyn.



CYFDDYDD

Y WAWR gu yn y pellter gawn,—a'r dydd
Ar ei dwf anghyflawn,
Lliw gwrid y gwyddfid a'r gwawn
Yn llosgi mewn gwyll ysgawn.