Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Marw un fach
Gwenodd uwch ei theganau—am ennyd
Mewn mwyniant di-groesau;
Heddiw ceir uwch ei bedd cau
Efengyl chwerwaf angau.
Gŵr Caredig
Un hynaws roed i huno,—a heddiw
Gwahoddaf heb wrido
Awelon haf i wylo
Uwch ei wyn lwch annwyl o.
Tegid Wyn
Yntau fu farw yn blentyn, ond yn awr
Hyd y nef ddiderfyn
Llawer angel gwalltfelyn
Oeda i weld Tegid Wyn.
Dyn Da
Hedd a phreiddiau y ffriddoedd—a garodd,
Ac erwau y cymoedd;
Un didwyll fel ffrind ydoedd,
A rhosyn aur Seion oedd.