Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gado'r Fainc

O fonwes plwyf Trawsfynydd—ehedodd
Yn ddidwrf fel hwyrddydd;
Tros y melyn ewyn aur
I lannau'r ardal lonydd.

Gŵr ydoedd a fu'n garedig—wrth bawb
Hyd borth y bedd unig;
Nef ei oes oedd mwyn fiwsig
Awel gwawr ar lasddail gwig.

Hen gyfaill, hawdd ei gofio—a'i eirf oll
Ar ei fainc yn gweithio;
Ar hyd ei ddydd rhodiodd o
Yn deg, onest, digwyno.

Ar fin ei ddidwrf annedd—awelon
G::ânt wylo'u melodedd;
A'u cân fel cwyn rhianedd
Ar ei fud ddigynnwrf fedd.