Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sant Ieuanc

Oer ing ni welodd erioed—na gwrid haf
Ar gwr dôl a glasgoed;
At leng y nef ieuengoed
Aeth yn sant deng wythnos oed.


Marw yn Hen

Wedi oes bur naturiol—hyd henaint
Dianaf a swynol,
Mewn gwisg wen aeth adre'n ôl
I fore'r byd anfarwol.



Ellis Wyn

Yntau a aeth yn blentyn—oddi yma
Trwy ryw ddamwain sydyn;
Ond trwy y gwynt a'r ewyn
Hola serch am Ellis Wyn.

'Does neb all osod blodau—yr haf aur
Ar ei fedd di-eiriau;
Huned, a phruddaidd seiniau
Tonnau a gwynt trosto'n gwau.