Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Eirwyn
Adwyth sydd am y blodyn—a wywodd
Mor ieuanc a sydyn;
Ond mewn gwlad hwnt min y glyn
Anfarwol yw nef Eirwyn.
Eldorado
Tir hud yw Eldorado,—a'n Rhobert,
Wr hybarch, aeth yno;
A Mair wen, ei gymar o,
Yw bronfraith y bêr wenfro.
Cadwaladr Roberts
I'w hynt aeth Cadwaladr Roberts yntau,
Hoffus a breiniol Orpheus y bryniau,
Gŵr a'i faton fu'n dihuno'n doniau
Yn fiwsig aur ar wefus ei gorau;
Torrodd trwy anhawsterau—ar hynt ddrud
I fri ei dud, a Chalfaria'i dadau.