Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Griff Llewelyn

Y llynedd mi welais Griffith Llewelyn,
Ei lygaid yn lasliw, ei wallt yn felyn.

Yn ei olwg lednais a'i dremiad tawel
'Roedd nodau ei deulu, a golau'r capel.

Ond heddiw mae'i deulu o dan y cymyl,
Ac yntau yn huno yn sŵn y megnyl.

Caethiwa di, Arglwydd, ddwylo y gelyn
Darawodd un annwyl fel Griff Llewelyn.


Nid a'n Ango

Ei aberth nid â heibio,—ei wyneb
Annwyl nid â'n ango,
Er i'r Almaen ystaenio
Ei dwrn dur yn ei waed o.