Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Yr Aberth Mawr
O'i wlad aeth i warchffos lom—Ewrob erch,
Lle mae'r byd yn storom;
A'i waed gwin yn y drin drom
Ni waharddai hwn erddom.
Yr Antur Olaf
Un dydd i'w antur gadawodd yntau
Henfro odidog ei ddifyr dadau;
Weithian ei glodydd edrydd ei frwydrau
Hyd erwau Ewrob a'i du ororau;
Ac yn y bell ddi-gân bau—rhoes yn glaf
Ei gŵyn olaf yn sŵn y magnelau.