Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MARW ODDI CARTREF

MAE beddrod ei fam yn Nhrawsfynydd,
Cynefin y gwynt a'r glaw,
Ac yntau ynghwsg ar obennydd.
Ym mynwent yr estron draw.

Bu fyw ag addfwynder a chariad
Yn llanw'i galon ddi-frad;
Bu farw a serch yn ei lygad
Ar allor rhyddid ei wlad.

Bu farw a'r byd yn ei drafferth
Yng nghanol y rhyfel mawr:
Bu farw mor ifanc a phrydferth
A chwmwl yn nwylo'r wawr.

Breuddwydiodd am fywyd di-waew
A'i obaith i gyd yn wyn;
Mor galed, mor anodd oedd marw
Mor ifanc, mor dlws â hyn.